
Hei-di-ho
Beth yw "hei-di-ho"?
Mae sesiynau hei-di-ho yn galluogi rhieni/ofalwyr i gael hwyl gyda’i gilydd wrth dod yn gyfarwydd a phrofiadau chwarae creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fydd y plant yn magu hyder yng nghwmni eraill trwy rhannu, hybu hunan ymwybyddiaeth o eraill, yn ogystal a’r hyder a’r gallu i fynegi eu hunain mewn ffordd greadigol ac i ymateb i rhythm a cherddoriaeth.
Mae dysgu yn hwyl at hei-di-ho; yn cynnig cyfle i ganu hwiangerddi, caneuon actol ac i chwarae offerynnau. Drwy odl ac ailadrodd mae plant yn dysgu rhifau, lliwiau, rhannau’r corff a llawer mwy.
"Mae cyflwyno cerddoriaeth yn ystod y blynyddoedd gynnar yn cynorthwyo’r broses o ddysgu drwy hyrwyddo datblygiad iaith, creadigrwydd, cydsymud a rhyngweithio cymdeithasol. Gall gofalwyr plant chwarae rol bwysig wrth ymgorffori cerddoriaeth a symudiadau i fywyd plentyn."
* Ffynhonnell: Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Plant Ifanc